Chris Coleman Yn Galw Am Gefnogaeth Ysgolion
International
2 Medi 2016

Chris Coleman Yn Galw Am Gefnogaeth Ysgolion

Mae Rheolwr tîm cenedlaethol Cymru Chris Coleman wedi cyhoeddi neges yn galw ysgolion ar draws Cymru a ddangosodd gefnogaeth wych i’r tîm yn ystod EURO 2016 i gefnogi unwaith eto.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch gymhwyso Cwpan y Byd FIFA 2018 yn erbyn Moldova ar ddydd Llun, 5 Medi ac mae Coleman yn gwybod gymaint o effaith gafodd cefnogaeth plant ar hyd a lled Cymru at arwain y tîm i’r rownd gynderfynol hanesyddol.

Dywed Coleman: “Hoffwn gymryd y cyfle yma cyn y gêm yn erbyn Moldova i ddiolch i bawb ar draws y wlad am eu cefnogaeth wych a’u llongyfarchiadau ers EURO 2016. Mae’r negeseuon gan bobl ifanc a phlant ysgol wedi bod yn ysbrydoledig.

“Wrth i’r ysgolion ailagor wedi’r gwyliau haf rwy’n gobeithio byddwch yn parhau i gefnogi’r garfan yn ystod ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd.”

Un o’r ffyrdd dangosodd ysgolion eu cefnogaeth oedd ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag ychydig o esiamplau i’w gweld isod.