Ton Pentre v Bangor fydd gêm fyw Sgorio yn 3edd rownd Cwpan Cymru JD
Welsh News
16 Tachwedd 2016

Ton Pentre v Bangor fydd gêm fyw Sgorio yn 3edd rownd Cwpan Cymru JD

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C yn falch o ddatgan mae’r gêm rhwng Ton Pentre a Bangor fydd y gêm fyw ar Sgorio yn 3edd rownd Cwpan Cymru JD.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ym Mharc Ynys, Ton Pentre ar ddydd Sul, 4 Rhagfyr 2016 gyda’r gic gyntaf am 15:00.

Dyw’r clybiau heb gwrdd ers tymor 1996/97 pan oedd Ton Pentre yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru, a bydd y cefnogwyr yn edrych ymlaen at y gêm ar ôl bron i 20 mlynedd ers i’r timau gwrdd y tro diwethaf.

Mae’r Dinasyddion yn y 3ydd safle yn UG Cymru, tra bod y ‘Bulldogs’ yn 7fed yn Adran Gyntaf Cynghrair Ceir Nathaniel.

Mi fydd Lee Phillips ac Andy Legg yn mynd ben-ben fel rheolwyr am y tro cyntaf.

Roedd Phillips yn gapten i Andy Legg yn ystod ei gyfnod llwyddiannus fel rheolwr Llanelli pan coronwyd y Cochion yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ac yn enillwyr Cwpan Cymru.

image6.jpeg

Dywedodd Phillips: “This is an incredible JD Welsh Cup tie. It’s certainly one of the standout fixtures of Round 3 and it will be fantastic to welcome Dafabet Welsh Premier League opposition to Ynys Park.

“Bangor have been an incredibly successful club over the years and they appear to be returning to their best under Andy Legg.

“We are sure that the people of the Rhondda will come along to support the Bulldogs as there’s a real buzz in the area around this match and even more so now with the news that it has been chosen by S4C and Sgorio for live coverage.”

Mae gan Bangor record arbennig yn y gystadleuaeth, wedi codi’r gwpan ar wyth achlysur ac wedi cyrraedd 18 o rowndiau terfynol.

Dyw Ton Pentre ond wedi cyrraedd ffeinal Cwpan Cymru unwaith yn eu hanes, ac hynny yn 1922 pan gollon nhw 2-0 yn erbyn Caerdydd.

Ton Pentre v Bangor – yn fyw ar Sgorio ddydd Sul, 4 Rhagfyr 2016 am 14:45.

Bangor City.png