Plans are well underway and excitement is building as Cardiff gets ready to host the world’s biggest sporting event of 2017, the UEFA Champions League Final on Saturday 3 June and the UEFA Women's Champions League Final on Thursday 1 June. The city has a strong track record in hosting major events and it is anticipated over 200,000 people will be in Cardiff, the largest crowd the city has experienced.

An event of this magnitude will inevitably bring more disruption than a normal sporting event, with greater road closures on the day and in the lead up, in order to build the event, along with changes to train, bus and coaches services and increased security to accommodate both the influx of visitors and local needs. 

Intensive planning has been underway for many months to ensure a safe and successful event and that both visitors and the local community have a positive experience. Key to this is ensuring those that live, work and play in Cardiff and surrounds are aware of the changes that will occur and have the tools they need to prepare and adapt.

Included here is all the local know-how needed to plan to get ahead of the Match.
This will be updated regularly with further details. 

The local Cardiff Community always show support, patience and warm welcome to the visitors to the City, as only the Welsh know how. This is what continues to bring such prestigious events to the City, such as the UEFA Champions League Finals and enables Cardiff to shine in the global spotlight.

Gwybodaeth am yr Ardal. Mae’r Brifddinas yn paratoi am y digwyddiad mawr

Mae cynlluniau ar y gweill a'r cyffro yn cynyddu wrth i Gaerdydd baratoi i gynnal digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd yn 2017, sef Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA ar ddydd Sadwrn Mehefin 3 a Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA ar ddydd Iau Mehefin 1. Mae gan y ddinas hanes a phrofiad llwyddiannus o gynnal digwyddiadau mawr, ac mae disgwyl y bydd dros 200,000 o bobl yng Nghaerdydd, y dorf fwyaf erioed i’r ddinas ei gweld.

Mae’n anochel bydd digwyddiad o'r maint hwn yn achosi mwy o ymyrraeth nag digwyddiad chwaraeon arferol, gyda mwy o ffyrdd ar gau ar y diwrnod a chyn hynny er mwyn adeiladu a pharatoi at y digwyddiad. Bydd hefyd newidiadau i wasanaethau trenau a bws a chynnydd ddiogelwch i ddarparu ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr ac at anghenion lleol.

Ers misoedd bellach mae cynllunio dwys wedi bod ar waith i sicrhau digwyddiad diogel a llwyddiannus a phrofiad cadarnhaol i ymwelwyr yn ogystal â’r gymuned leol. Rhan allweddol o hyn yw sicrhau bod y rhai sy’n byw, gweithio a mwynhau Caerdydd a’r cyffiniau yn ymwybodol o’r newidiadau a fydd yn digwydd a bod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i baratoi ac addasu trefniadau.

Yma ceir yr holl wybodaeth leol ymarferol sydd ei angen i helpu cynllunio o gwmpas cyfnod y gemau.
Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth yma’n rheolaidd gyda manylion pellach.

Mae’r gymuned leol yng Nghaerdydd bob amser yn dangos cefnogaeth, amynedd a chroeso cynnes Cymreig i ymwelwyr y ddinas. Dyma pam fod digwyddiadau mawreddog megis Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn parhau i ddod i’r ddinas gan alluogi Caerdydd i serennu ar lwyfan byd-eang.

Stay up to date