Get Ready - Tips to plan ahead now
With over 200,000 people expected in the area during the UEFA Champions League Finals and UEFA Champions Festival, Thursday 1 - Sunday 4 June 2017, transport is expected to be exceptionally busy. To minimise delays and disruption it is best to plan ahead. Here are some helpful things to remember as you make travel plans in the lead up to and during the event.
1. Check if your journey will be affected. Have a look and see if your journey will be affected here.
2. Try different travel tactics to avoid the crowds. Consider one of the following wherever possible:
- Reduce non-essential journeys
- Retime essential journeys to less busy periods
- Re-route to avoid the busy areas
- Re-mode to an alternative form of travel.
3. If your journey is essential on Saturday 3 June, make sure you head out early and consider using public transport rather than travelling by car. Roads coming into and out of Cardiff will be extremely busy on Saturday 3 June, so if it is essential that you travel by car, make sure you head out early. Alternatively consider using local bus services or, for shorter journeys, walking and cycling where you can.
4. Rail and bus services going into and around Cardiff are expected to be at their busiest ever and timetables will be impacted. If your journey is essential, or you are keen to soak in the atmosphere, your trip may take longer than usual, so head out early and book well in advance. For more travel advice read on here.
5. Know the road closures in advance. There will be more extensive road closures in the city centre than a normal event in the days leading up to and directly afterwards to manage the crowds.
6. Consider staying local on Saturday 3 June. If you do not have a ticket to the UEFA Champions League Final on Saturday 3 June, then think again before going into town as it will be packed with fans. The match will not be screened at the UEFA Champions Festival and so if you are keen to watch the game, consider watching it locally to avoid the crowds.Plan ahead now.
7. Visit the UEFA Champions Festival on Thursday 1, Friday 2 and Sunday 4 June to beat the crowds. See the trophy, enjoy the atmosphere – but avoid Saturday 3 June as the UEFA Champions League Final is on. Be sure to check out what's on at the UEFA Champions Festival.
8. The UEFA Women's Champions League Final. The UEFA Women's Champions League Final is on Thursday 1 June at 19.45 (local time) Cardiff City Stadium and it will be busier than usual.
BYDDWCH YN BAROD - CYNGOR I GYNLLUNIO O FLAEN LLAW NAWR
Gyda disgwyl i dros 200,000 o bobl fod yn yr ardal yn ystod Rowndiau Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a Gŵyl Pencampwyr UEFA, dydd Iau Mehefin 1 – dydd Sul Mehefin 4 2017, mae disgwyl i drafnidiaeth fod yn eithriadol o brysur. Er mwyn lleihau oedi ac ymyrraeth mae’n bwysig cynllunio o flaen llaw. Dyma ychydig o gyngor defnyddiol i gofio wrth i chi wneud cynlluniau teithio yn y cyfnod sy’n arwain at a thros gyfnod y digwyddiad.
1. Gwiriwch os bydd eich taith yn cael ei heffeithio. Gallwch wneud hynny yma.
2. Ceisiwch ffordd wahanol o deithio i osgoi'r tyrfaoedd. Ystyriwch un o'r canlynol lle bynnag y bo modd:
- Cwtogi ar deithiau nad ydynt yn hanfodol
- Ail-amseru teithiau hanfodol i gyfnodau llai prysur
- Defnyddio ffyrdd arall i osgoi'r mannau prysur
- Defnyddio math arall o drafnidiaeth
3. Os yw eich taith yn hanfodol ar ddydd Sadwrn 3 Mehefin, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael yn gynnar ac ystyriwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na theithio mewn car. Bydd y ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd yn eithriadol o brysur ar ddydd Sadwrn Mehefin 3, felly os yw hi’n hanfodol i chi deithio mewn car, gadewch yn gynnar. Fel arall, ystyriwch ddefnyddio gwasanaethau bws lleol neu ar gyfer teithiau byrrach, beth am gerdded neu feicio lle bo modd?
4. Mae disgwyl i wasanaethau bws a thrên i mewn ac allan o Gaerdydd fod ar eu prysuraf erioed a bydd amserlenni’n cael eu heffeithio. Os yw eich taith yn hanfodol neu os ydych yn awyddus i brofi’r awyrgylch, gall eich taith gymryd hirach na’r arfer felly gadewch yn gynnar ac archebwch ymhell o flaen llaw. Am fwy o gyngor teithio darllenwch yma.
5. Byddwch yn gyfarwydd â’r ffyrdd fydd ar gau o flaen llaw. Bydd nifer helaeth o ffyrdd yn cael eu cau yng nghanol y ddinas, mwy na gyda digwyddiad arferol, yn y dyddiau yn arwain at ac yn syth ar ôl y digwyddiad i reoli’r torfeydd.
6. Ystyriwch aros yn lleol ar Fehefin 3. Os nad oes gennych chi docyn i Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yna ystyriwch eto cyn mynd i’r ddinas gan y bydd dan ei sang â chefnogwyr. Ni fydd y gêm yn cael ei dangos yng Ngŵyl Pencampwyr UEFA ac felly, os ydych chi’n awyddus i wylio’r gêm, ystyriwch ei gwylio hi’n lleol er mwyn osgoi’r torfeydd. Cynlluniwch o flaen llaw nawr.
7. Ewch i Ŵyl Pencampwyr UEFA ar ddydd Iau Mehefin 1, Dydd Gwener Mehefin 2 a Sul Mehefin 4 i osgoi’r torfeydd. Ewch i weld y tlws a mwynhau’r awyrgylch – ond ceisiwch osgoi ddydd Sadwrn Mehefin 3 gan mai dyna ddiwrnod Rownd Terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Cofiwch edrych i weld beth sydd ymlaen yng Ngŵyl Pencampwyr UEFA.
8. Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA. Mae Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal ar ddydd Iau Mehefin 1 am 19.45 (amser lleol). Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn brysurach na’r arfer.