Belarws 0-1 Cymru
International
9 Hydref 2019

Belarws 0-1 Cymru

Parhau a wnaeth ymgyrch di-guro tîm Jayne Ludlow neithiwr yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Ewro 2021 UEFA ar ôl i gôl hwyr gan Rachel Rowe sicrhau buddugoliaeth 1-0 i Gymru oddi cartref i Belarws.

Belarws 0-1 Cymru

Borisov Arena

  • R Rowe 82'

Roedd Rowe, wrth ddychwelyd ar ôl cyfnod hir gydag anaf ACL, yn un o ddau newid i’r garfan a gafodd gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon. Yr ail oedd Anna Filbey, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf, a hynny yng nghaol yr amddiffynfa yn lle’r capten Sophie Ingle.

Prin iawn oedd y cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, a doedd dim llawer i boeni’r naill gôl-geidwad na’r llall. Gallai cyfle gorau Cyrmu yn y cyfnod cychwynnol fod wedi dod o gic o’r smotyn, ond penderfynodd y dyfarnwr nad oedd trosedd wedi’i chyflawni wrth i Natasha Harding ddisgyn yn y bocs, er bod cyswllt gan gôl-geidwad Belarws. Gyda munudau i’w sbario cyn diwedd yr hanner cyntaf, daeth cyfle gwych arall i ran Cymru, ond llwyddodd Voskobovich i fwrw peniad gan Rhiannon Roberts o gic gornel dros y traws.

Stsrting xi.JPG

Cawsom ddechrau digon bywiog i’r ail hanner gan y ddau dîm, ond Belarws a greodd un o’r cyfleoedd gorau i fynd ar y blaen. Ar ôl camgymeriad gan amddiffynfa Cymru wrth iddynt ildio’r bêl, aeth Scherbachenia un i un yn erbyn Laura O’Sullivan, ond hwyliodd ei hergyd dros y traws.

Gyda’r pwysau’n pentyrru gan Gymru, tarodd ergyd o bell Natasha Harding y postyn pellaf, a chafodd gôl ddilynol Elise Hughes ei gwrthod o ganlyniad i gamsefyll. Ond funudau'n ddiweddarach, roedd merched Cymru yn dathlu. Fe wnaeth Belarws smonach o glirio’r bêl o gic gornel gan Gymru a glaniodd y bêl wrth draed Rachel Rowe. Daeth ergyd anhygoel ganddi hi i ganfod y tu mewn i’r postyn pellaf o ongl dynn ar yr ochr chwith.

Gyda Norwy yn curo’r Ynysoedd Ffaröe 12-0, bydd Cymru nawr yn herio Gogledd Iwerddon ar 12 Tachwedd er mwyn parhau â’u hymdrech i gyrraedd Ewro 2021.

Cymru: 1 L O'Sullivan, 5 R Roberts, 2 L Dykes, 14 H Ladd, 18 A Filbey, 13 R Rowe, 8 A James, 16 J Green, 6 E Hughes, 11 N Harding, 9 K Green

Eilyddion heb ei ddefnyddio: 12 C Skinner, 3 G Evans, 7 E Jones, 10 H Ward, 15 C Estcourt, 17 N Lawrence, 19 M Wynne, 20 G Horrell, 22 G Walters

Cerdyn melyn: K Green