Bodin yn cyhoeddi carfan D21 i wynebu Gwlad Belg
International
30 Medi 2020

Bodin yn cyhoeddi carfan D21 i wynebu Gwlad Belg

Mae rheolwr tîm D21 Cymru Paul Bodin wedi enwi ei garfan i wynebu Gwlad Belg yn Leuven wythnos nesaf ar gyfer Rownd Rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA EWRO D21 2021.

Gwlad Belg D21 v Cymru D21

Rownd Ragbrofol Pencampwriaeth D21 UEFA EURO 2021

  • Dydd Gwener 5 Hydref 19:00
  • Den Dreef, Leuven

Fe fydd pedwar chwaraewr o’r tîm D19 yn rhan o garfan Bodin am y tro gyntaf. Bydd Ryan Astley, Joe Adams, Dan Williams a Sam Bowen yn teithio i Wlad Belg, ar ôl i’r gystadleuaeth rownd elît EURO D19 cael ei ohirio tan fis Tachwedd.

Ar ôl chwarae ei gêm D21 gyntaf mis diwethaf, ni fydd Luke Jephcott ar gael oherwydd anaf a ni fydd Terry Taylor na Harry Clifton ar gael wrth iddyn nhw hunanynysu ar ôl i chwaraewr neu aelod o staff cael canlyniad COVID-19 positif yn eu clwb.

Ar ôl pum gêm yn yr ymgyrch, mae Cymru yn eistedd yn y pedwerydd safle, pedwar pwynt tu ôl Gwlad Belg sydd ar frig y tabl.

Fe wnaeth UEFA cyhoeddi newid i strwythur y rownd ragbrofol, oherwydd effaith COVID-19. Fe fydd y naw tîm sydd ar frig ei grwpiau a’r pum tîm gorau yn yr ail safle yn ymuno a Hwngari a Slofenia, sydd yn cynnal y bencampwriaeth blwyddyn nesaf. Bydd rownd grwpiau'r bencampwriaeth yn cymryd lle rhwng 24-31 o Fawrth gyda 16 tîm yn cael ei rhannu mewn i bedwar grŵp, a fydd yr wyth olaf yn dychwelyd i Hwngari a Slofenia ar gyfer gemau un cyfle rhwng 31 Mai – 6 Mehefin.

U21 Squad Announcement.png

Adam PRZYBEK (Ipswich Town), George RATCLIFFE (Cardiff City), Cameron COXE (Solihill Borough), Brandon COOPER (Newport County- On loan from Swansea City), Regan POOLE (Milton Keynes Dons), Joe LEWIS (Swansea City), Ryan ASTLEY (Everton), Joe Adams (BRENTFORD), Morgan BOYES (Fleetwood Town- On loan from Liverpool), Liam CULLEN (Swansea City), Dan WILLIAMS (Swansea City), Aaron LEWIS (Lincoln City), Sam BOWEN (Cardiff City), Mark HARRIS (Cardiff City), Siôn SPENCE (Crystal Palace), James WAITE (Cardiff City), Oliver COOPER (Swansea City), Ryan STIRK (Birmingham City)