Buddugoliaeth arwyddocaol i Gymru yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec
About FAW
30 Mawrth 2021

Buddugoliaeth arwyddocaol i Gymru yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec

44 mlynedd yn ddiweddarach ac mae James arall yn sgorio i Gymru.

CYMRU 1-0 Y WERINIAETH TSIEC

  • Dydd Mawrth 30 Mawrth
  • Stadiwm Dinas Caerdydd

Mae’n amlwg nad ‘James’ yw hoff gyfenw Cymreig tîm pêl-droed Y Weriniaeth Tsiec. Bedwar deg pedwar o flynyddoedd yn ôl i’r noson, sgoriodd Leighton James yn eu herbyn a’r wythnos hon, dyma James arall yn sgorio yn eu herbyn, y tro hwn Daniel James.

 

Hon oedd yr ail gêm i Gymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn dilyn y golled i Wlad Belg yr wythnos diwethaf. Roedd hi’n gêm allweddol i’r Cymry felly, yn enwedig wrth gofio i’w gwrthwynebwyr gael gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg yn ddiweddar.  

 

Amharwyd yn fawr ar baratoadau Cymru ar gyfer y gêm yn sgil anafiadau i rai o’r sêr megis Ramsey ac Allen a’r ffaith i dri chwaraewr arall gael eu diystyru am dorri rheolau’r garfan.

 

Nid oedd yn syndod, felly, mai hanner cyntaf digon simsan a gafodd Cymru. Er na sgoriodd yr ymwelwyr, roedd amddiffyn Cymru ar chwâl ar adegau gyda’i chwaraewyr yn euog o ildio meddiant yn rhy rwydd o lawer.  

 

Roedd y Weriniaeth Tsiec, ar y llaw arall, yn chwarae’n hyderus gan reoli’r gêm yn llwyr. Roedd eu pasio’n llyfn a’u golwg ar gipio’r tri phwynt. Am gyfnodau hir, prin y gwelwyd y Cymry’n cyffwrdd yn y bêl ac roedd y diffyg profiad i’w weld fwy fwy wrth i’r egwyl agosáu. 

 

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, y gobaith oedd y byddai Cymru’n deffro erbyn dechrau’r ail hanner. Er y gwelwyd peth gwelliant wedi’r egwyl, prin oedd y cyfleon i’r tîm cartref, hyd yn oed wedi i un o chwaraewyr y Weriniaeth Tsiec  weld y cerdyn coch.

 

Wrth i’r gêm fynd i’r chwarter olaf, serch hynny, synhwyrodd y Cymry fod gobaith am fuddugoliaeth wedi’r cyfan. Un fflach o ysbrydoliaeth oedd ei angen a, fel yn achos cymaint o gêmau diweddar Cymru, Gareth Bale oedd y sbardun. Gydag wyth munud o’r gêm yn weddill, aeth heibio’r amddiffynwr gan groesi’r bêl yn berffaith i’r cwrt cosbi lle roedd seren Man Utd, Daniel James, yno i’w phenio’n bwerus i gefn y rhwyd. Ei gôl gyntaf erioed â’i ben yn ôl pob sôn! 

Er y bu’n rhaid i Gymru amddiffyn yn ddewr yn ystod munudau olaf y gêm – gyda Rodon yn benodol yn disgleirio – methu â rhwydo fu hanes y Weriniaeth Tsiec. Aethant adref yn waglaw felly a hwythau wedi chwarae’n hyderus trwy gydol y naw-deg munud.

 

Er i’r Cymry fod yn ffodus i gael buddugoliaeth yn y diwedd, roedd hi’n fuddugoliaeth bwysig sy’n codi’r tîm i’r trydydd safle yn y tabl gyda gêm mewn llaw ar y Weriniaeth Tsiec sy’n ail. Gan gofio’r anafiadau a helyntion eraill yr wythnos, gall tîm Robert Page deimlo’n reit falch o’u hunain er efallai nad oedd y perfformiad yn un i’w drysori. 

2021-03-30 - Cymru v Czech Republic -136.jpg
2021-03-30 - Cymru v Czech Republic -137.jpg

Cymru: 12. Danny Ward, 22. Chris Mepham (13. Kieffer Moore 56’), 6. Joe Rodon, 4. James Lawrence, 14. Connor Roberts, 16. Joe Morrell, 15. Ethan Ampadu, 3. Neco Williams, 11. Gareth Bale, 10. Harry Wilson (8. Jonny Williams 76’), 20. Daniel James

Eilyddion heb eu defnyddio: 1. Wayne Hennessey, 2. Chris Gunter, 5. Ben Cabango, 7. Tom Lawrence, 9. Brennan Johnson, 17. Rhys Norrington-Davies, 18. Josh Sheehan, 21. Adam Davies, 23. Dylan Levitt.

---

Y Weriniaeth Tsiec: 1. Tomáš Vaclík, 3. Ondřej Čelüstka, 17. Ondřej Kúdela (Antonín Barák, 87’), 5. Vladimír Coufal (20. Matěj Vydra, 87’), 18. Jan Bořil, 15. Tomáš Souček, 21. Tomáš Holeš (11. Michael Krmenčík, 53), 8. Vladimír Darida, 13. Lukáš Provod (Pavel Kadeřábek, 82’), 14. Jakub Jankto (12. Lukáš Masopust, 82’), 10. Patrik Schick

Eilyddion heb eu defnyddio: 2. Pavel Kadeřábek, 4. David Zima, 6. Patrizio Stronati, 9. David Pavelka, 16. Aleš Mandous, 19. Jakub Pešek, 22. Tomáš Pekhart, 23. Jiří Pavlenka