Carfan Cymru wedi’i gyhoeddi i wynebu Kazakhstan ac Estonia
International
9 Medi 2021

Carfan Cymru wedi’i gyhoeddi i wynebu Kazakhstan ac Estonia

Mae Gemma Grainger wedi dewis carfan o 26 chwaraewr ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch Cwpan y Byd FIFA Merched 2023 yn erbyn Kazakhstan ac Estonia.

Rownd Ragbrofol Cwpan y Byd FIFA Merched 2023

Cymru v Kazakhstan

  • 19:15 Dydd Gwener 17 o Fedi
  • Parc y Scarlets, Llanelli
  • Tocynnau ar gael ar faw.cymru/tickets

Gyda charfan lawn ar gael, mae Grainger yn croesawi nôl Ceri Holland a chollodd allan ar y gêm ddiwethaf yn erbyn yr Alban ym mis Mehefin. Mae chwaraewr canol cae Caerlŷr, Hannah Cain, wedi cael ei galwad gyntaf i’r garfan, ar ôl cynrychioli y tro diwethaf i’r tîm D17 nol yn 2014. Ni fydd Maria Francis-Jones a Bethan Roberts yn rhan o’r garfan, ar ôl iddyn nhw gael ei ddewis i fod yn rhan o’r garfan D19 a fydd yn wynebu Gogledd Iwerddon mewn dwy gêm gyfeillgar wythnos nesaf.

Bydd Cymru yn dechrau’r ymgyrch yn erbyn Kazakhstan ym Mharc y Scarlets ar ddydd Gwener 17 o Fedi (KO 19:15), cyn teithio i Parnu i wynebu Estonia ar ddydd Mawrth 21 o Fedi. Y gêm yn erbyn Kazakhstan fydd y tro gyntaf i’r tîm chwarae o flaen torf ers y pandemig COVID-19.

Fe wnaeth Cymru wynebu Kazakhstan y tro diwethaf yn ystod ymgyrch Cwpan y Byd FIFA Merched 2019, yn ennill 1-0 yn y ddwy gêm wrth i Jess Fishlock ac Hayley Ladd sgorio. Bydd Cymru hefyd yn gyfarwydd efo Estonia, ar ôl fuddugoliaeth 2-0 yn ei herbyn ym mis Mawrth 2020, pan sgoriodd Megan Wynne a Nadia Lawrence yn y Cae Ras.

Mae tocynnau ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Kazakhstan ar faw.cymru/tickets, efo phrisiau yn dechrau o £2 (archebion grŵp) a £4 (archebion unigol).

CYMRU_W_SA_I_0809.jpg

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Coventry United), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Reading), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Esther MORGAN (Tottenham Hotspur), Rachel ROWE (Reading), Lily WOODHAM (Reading), Sophie INGLE (Chelsea), Anna FILBEY (Charlton Athletic), Angharad JAMES (North Carolina Courage), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Charlie ESTCOURT (Coventry United), Jess FISHLOCK (OL Reign), Carrie JONES (Manchester United), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Ffion MORGAN (Bristol City), Megan WYNNE (Charlton Athletic), Hannah CAIN (Leicester City), Ceri HOLLAND (Liverpool), Natasha HARDING (Reading), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Helen WARD (Watford), Elise HUGHES (Charlton Athletic), Georgia WALTERS (Liverpool).