Carfan Cymru wedi'i gyhoeddi i wynebu Seland Newydd
International
20 Mai 2019

Carfan Cymru wedi'i gyhoeddi i wynebu Seland Newydd

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 20 chwaraewr i wynebu Seland Newydd yn Stadiwm Leckwith, Caerdydd ar Ddydd Mawrth, 4 Mehefin.

Cymru v Seland Newydd

  • Dydd Mawrth 4 Mehefin 19:00
  • Stadiwm Leckwith, Caerdydd
  • Tocynnau ar gael yma

Mae Ludlow wedi gwneud pum newid i’r garfan a chwaraeodd gêm ddi-sgôr yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nol ym mis Ebrill. Mae Jess Fishlock ac Angharad James allan o’r garfan er mwyn cael saib ar ôl flwyddyn brysur i’w chlybiau a Chymru. O ganlyniad i hynny fydd Ludlow yn gweld hi fel cyfle gwych i chwaraewyr ifanc y garfan profi ei hun.

Bydd Lily Woodham yn gobeithio ennill ei chap gyntaf hi. Chwaraeodd yr amddiffynnwr ym mhob gêm i’r garfan d19 yn ei ymgyrch Ewro llynedd. Yn ogystal â hynny, mae Ludlow wedi pigo’r chwaraewr canol cae Georgia Evans am y tro gyntaf ers 2017.

Squad Announcement New Zealand.png

Roedd y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec wedi creu hanes wrth i 2,168 wylio’r gêm yn Rodney Parade, y dorf fwyaf am gêm gyfeillgar y tîm merched yng Nghymru. Bydd y garfan yn gobeithio gweld y record yn cael ei thorri unwaith eto wrth iddyn nhw wynebu carfan gryf Seland Newydd a fydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd Merched a fydd yn dechrau tri diwrnod ar ôl y gêm.

Fe gall cefnogwyr archebu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd ar www.bit.ly/WalNzlTICKETS.

Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies FC), Olivia CLARK (Nettleham Ladies FC), Sophie INGLE (Chelsea FC Women), Hayley LADD (Birmingham City Women FC), Loren DYKES (Bristol City Women FC), Gemma EVANS (Bristol City Women FC), Rhiannon ROBERTS (Liverpool FC Women), Lily WOODHAM (Reading FC Women), Natasha HARDING (Reading FC Women), Chloe LLOYD (Cardiff City Ladies FC), Anna FILBEY (Tottenham Hotspur Ladies FC), Kylie NOLAN (Cardiff City Ladies FC), Charlie ESTCOURT (Reading FC Women), Elise HUGHES (Everton Ladies FC), Emma JONES (Cardiff City Ladies FC), Megan WYNNE (Tottenham Hotspur Ladies FC), Helen WARD (Watford FC Ladies), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion Women FC), Ella POWELL (Georgia State University), Georgia EVANS (Yeovil Town Ladies FC)