Carfan D21 Cymru wedi’i chyhoeddi i wynebu Bwlgaria
International
24 Awst 2021

Carfan D21 Cymru wedi’i chyhoeddi i wynebu Bwlgaria

Mae rheolwr tîm D21 Cymru Paul Bodin wedi enwi 21 chwaraewr ar gyfer gêm ragbrofol pencampwriaeth UEFA EURO D21 2023 yn erbyn Bwlgaria ar ddydd Mawrth 7 o Fedi (KO 16:30 BST).

ROWND RAGBROFOL PENCAMPWRIAETH EWRO D21 UEFA

Bwlgaria v Cymru

  • Dydd Mawrth 7 o Fedi, KO 16:30 BST
  • Slavia, Sofia

Nid oes yna lawer o newidiadau i’r garfan a chafodd gêm ddi-sgôr yn erbyn Moldofa ym mis Chwefror. Mae Brandon Cooper a Christian Norton nol yn y garfan ar ôl cholli’r gêm ddiwethaf efo anafiadau, ac mae Owen Beck nol yn y garfan ar ôl nifer o berfformiadau campus i Lerpwl dros y misoedd diwethaf. Ni fydd Siôn Spence ar gael ar ôl derbyn cerdyn coch yn y gêm yn erbyn Moldofa.

Y tro diwethaf wnaeth Cymru D21 wynebu Bwlgaria oedd yn yr ymgyrch ragbrofol UEFA EURO 2017, lle curodd Cymru'r gêm adref 3-1, a chael canlyniad ddi-sgôr i ffwrdd o adref.

U21 squad Bulgaria (a).png

Cymru U21: George RATCLIFFE (Cardiff City), Nathan SHEPPERD (Brentford), Daniel BARDEN (Livingston- On loan from Norwich City), Billy SASS-DAVIES (Crewe Alexandra), Morgan BOYES (Liverpool), Brandon COOPER (Swansea City), Eddy JONES (Stoke City), Ryan ASTLEY (Everton), Owen BECK (Liverpool), Fin STEVENS (Brentford), Niall HUGGINS (Sunderland), Terry TAYLOR (Burton Albion), Sam BOWEN (Cardiff City), Sam PEARSON (Bristol City), Joe ADAMS (Brentford), Luke JEPHCOTT (Plymouth Argyle), Elliot THORPE (Unattached), Rhys HUGHES (Everton), Jack VALE (Blackburn Rovers), Christian NORTON (Stoke City) Ryan STIRK (Birmingham City).