Carfan wedi’i chyhoeddi ar gyfer camp ymarfer yn Portiwgal
International
21 Mai 2019

Carfan wedi’i chyhoeddi ar gyfer camp ymarfer yn Portiwgal

Mae rheolwr Cymru Ryan Giggs wedi enwi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer camp ymarfer yn Portiwgal wythnos hyn fel rhan o’r paratoadau cyn gemau rhagbrofol yn erbyn Croatia a Hwngari mis nesaf.

Bydd nifer o’r chwaraewyr o’r fuddugoliaeth yn erbyn Slofacia ym mis Mawrth yn y garfan, yn cynnwys Gareth Bale, Joe Allen, David Brooks a Dan James. Ni fydd Ben Davies na Ben Woodburn ar gael oherwydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a bydd Harry Wilson, Tom Lawrence a Neil Taylor yn colli allan oherwydd y gêm ail-gyfle rhwng Derby ac Aston Villa. Yn ogystal â hynny, fydd Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn colli allan oherwydd anafiadau.

Gyda dwy gêm anodd yn dod i fyny rwy'n hapus bod gennym ni carfan mor gryf yn teithio i Bortiwgal ar ôl tymor hir i'r chwaraewyr. Yn ogystal â hynny gyda nifer o chwaraewyr arall yn chwarae yn rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr a'r gemau ail-gyfle yn Lloegr mae rhaid i ni baratoi yn y ffordd gorau posib ar gyfer mis nesaf.

– Ryan Giggs

Mae Giggs wedi pigo saith chwaraewr newydd am y garfan. Fydd Owen Evans, Dylan Levitt a Nathan Broadhead yn teithio i Bortiwgal ar ôl sefyll allan yng ngharfannau canolradd Cymru dros y 12 mis diwethaf.

Ar ôl y camp rhwng 22-28 o Fai yn yr Algarve bydd Giggs yn cyhoeddi’r garfan i wynebu Croatia a Portiwgal ar Ddydd Mercher 29 o Fai yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

May Training Camp Squad.png

Wayne HENNESSEY (Crystal Palace), Owen EVANS (Wigan Athletic), Adam DAVIES (Barnsley), Connor ROBERTS (Swansea City), Chris GUNTER (Reading), Chris MEPHAM (AFC Bournemouth), James LAWRENCE (RSC Anderlecht), Ashley WILLIAMS (Everton), Tom LOCKYER (Bristol Rovers), Joe RODON (Swansea City), Dylan LEVITT (Manchester United), Ben WILLIAMS (Barnsley), Joe ALLEN (Stoke City), Matthew SMITH (Manchester City), Will VAULKS (Rotherham United), Rabbi MATONDO (Schalke 04), Dan JAMES (Swansea City), David BROOKS (AFC Bournemouth), George THOMAS (Leicester City), Gareth BALE (Real Madrid), Sam VOKES (Stoke City), Kieffer MOORE (Barnsley), Nathan BROADHEAD (Everton), Louis THOMPSON (Norwich City), Terry TAYLOR (Wolverhampton Wanderers), Ryan HEDGES (Barnsley)