Cymru i wynebu Awstria yn Abertawe a’r UDA yng Nghaerdydd mewn gemau paratoi Ewro 2020
International
17 Ionawr 2020

Cymru i wynebu Awstria yn Abertawe a’r UDA yng Nghaerdydd mewn gemau paratoi Ewro 2020

Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm gartref ym mis Mawrth yn erbyn Awstria a’r UDA fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Ewro 2020.

Cymru v Awstria

  • 19:45 Dydd Gwener 27ain o Fawrth
  • Stadiwm Liberty, Abertawe

CYMRU V UDA

  • 19:45 Dydd Llun 30ain o Fawrth
  • Stadiwm Dinas Caerdydd

Tocynnau ar werth i Aelodau'r Wal Goch am 10:00 Ionawr 31

Bydd carfan Ryan Giggs yn dychwelyd i Stadiwm y Liberty am y tro cyntaf mewn saith mlynedd ar Fawrth 27ain yn erbyn Awstria. Yn erbyn Awstria yn 2013 oedd gêm gyfeillgar ddiwethaf Cymru yn y stadiwm, ble sgoriodd Gareth Bale a Sam Vokes mewn buddugoliaeth o 2-0.

Dridiau yn ddiweddarach ar Fawrth 30, bydd Cymru yn wynebu’r UDA yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y tro cyntaf i’r ddwy wlad gyfarfod yng Nghymru. Dim ond unwaith mae’r ddwy wlad wedi chwarae ei gilydd o’r blaen a hynny yn 2003, gyda’r UDA yn selio buddugoliaeth o 2-0 yn San Jose yn erbyn carfan Mark Hughes.

Bydd y ddwy gêm ym mis Mawrth yn gyfle gwych i gefnogi’r tîm cenedlaethol fel rhan o’u paratoadau ar gyfer rowndiau terfynol EWRO 2020 ym mis Mehefin. Bydd y gemau yma’n allweddol i Ryan Giggs a’i gynlluniau i siapio’r tîm ar gyfer y twrnamaint.

Bydd tocynnau, £20 i oedolion, £10 i oedolion dros 65 oed a £5 i blant dan 16 oed, yn mynd ar werth am 10:00 ar y 31ain o Ionawr ar gyfer Aelodau Y Wal Goch a byddent ar gael i’w prynu yma.