CYMRU I WYNEBU LLOEGR YN STADIWM WEMBLEY
International
16 Gorffenaf 2020

CYMRU I WYNEBU LLOEGR YN STADIWM WEMBLEY

Bydd Cymru yn teithio i Stadiwm Wembley ddydd Iau 8fed o Hydref ar gyfer gêm ryngwladol y cenhedloedd cartref yn erbyn Lloegr.

LLOEGR v CYMRU

Dydd Iau 8 Hydref 2020

Cic Gyntaf 8pm

Stadiwm Wembley

Bydd carfan Ryan Giggs yn dychwelyd i’r cae yn yr Hydref am y tro cyntaf mewn 10 mis oherwydd pandemig COVID-19, gan ddechrau gydag ymgyrch 2020/21 Cynghrair Cenhedloedd UEFA. Mae’r gêm yn erbyn Lloegr yn un o ddwy gêm ryngwladol ychwanegol ym mis Hydref a Thachwedd mewn cyfnod o gemau triphlyg. Yn unol â chanllawiau presennol y Llywodraeth, ar hyn o bryd bydd y gêm yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.

Ers y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 1879, Lloegr yw ail wrthwynebwyr hynaf Cymru, gyda 102 o gemau rhwng y gwledydd – 14 buddugoliaeth, 21 gêm gyfartal a 67 colled. Y tro diwethaf i Gymru ymweld â Stadiwm Wembley oedd yn 2011 ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2012 ble sgoriodd Ashley Cole yr unig gôl yn y golled o 1-0.

Bydd tîm Ryan Giggs yn manteisio ar y gêm hon i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Ewro 2020 yr haf nesaf ble bydd y garfan yn gobeithio dychwelyd i Wembley, ble mae rhai o’r gemau yn cael eu cynnal, ar gyfer cymalau olaf y gystadleuaeth.

Gan edrych ymlaen at yr Hydref, mae Cymru yng Ngrŵp B Cynghrair y Cenhedloedd gyda Bwlgaria, Y Ffindir a Gweriniaeth Iwerddon gyda dyddiadau’r gemau fel a ganlyn:

  • Dydd Iau, 3 Medi – Y Ffindir v Cymru (7:45pm)
  • Dydd Sul, 6 Medi – Cymru v Bwlgaria (2:00pm)
  • Dydd Sul, 11 Hydref – Gweriniaeth Iwerddon v Cymru (2:00pm)
  • Dydd Mercher 14 Hydref – Bwlgaria v Cymru (7:45pm)
  • Dydd Sul, 15 Tachwedd – Cymru v Gweriniaeth Iwerddon (5:00pm)
  • Dydd Mercher, 18 Tachwedd – Cymru v Y Ffindir (7:45pm)

Bydd pob gêm sydd wedi’i drefnu yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig hyd y gellir rhagweld. Bydd CBDC yn parhau i ddilyn canllawiau perthnasol y Llywodraeth a bydd cefnogwyr yn cael eu hysbysu os bydd trefniadau’n newid a thocynnau ar gael.