Cymru’n parhau eu hymgyrch ragbrofol Ewro Merched UEFA heb golli
International
12 Tachwedd 2019

Cymru’n parhau eu hymgyrch ragbrofol Ewro Merched UEFA heb golli

Mae Cymru’n parhau yn ddiguro yn eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA ar ôl gêm gyfartal di-sgôr yng Ngogledd Iwerddon.

GOGLEDD IWERDDON 0-0 CYMRU

Ymgyrch Ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA

  • Seaview, Belffast

  • Torf – 1,477

Dechreuodd Megan Wynne ei gêm gyntaf dros Gymru ym Melffast mewn carfan sydd wedi bod yn eithaf sefydlog. O’r munud cyntaf roedd raid Wynne a’r tîm fod yn wyliadwrus, gyda Laura O’Sullivan yn gorfod deifio i arbed peniad Simone Magill.

Setlodd Cymru yn fuan i’r gêm gan greu eu cyfleoedd eu hunain. Ergydiodd Rachel Rowe o bell yn llydan tra bod ergyd Angharad James wedi gwyro i osgoi’r cornel uchaf.

team photo.jpg

Roedd yr ail hanner yn pendilio o un pen y cae i’r llall, gyda’r ddau dîm yn creu llu o gyfleoedd. Unwaith eto roedd rhaid dibynnu ar Laura O’Sullivan yn y munud cyntaf cyn i Rebecca Flaherty, gôl-geidwad Gogledd Iwerddon wneud arbediad campus i atal ergyd Angharad James rhag mynd i gefn y rhwyd yn y gornel waelod.

Daeth cyfleoedd gorau Cymru o’r gêm gan Rachel Rowe, a gipiodd y gôl dyngedfennol yn y fuddugoliaeth fis diwethaf yn erbyn Belarws. Daeth Rowe benben gyda Flaherty unwaith yn rhagor, gyda’r gôl geidwad yn atal gôl tua diwedd y gêm.

Roedd llawer o elfennau positif fel llwyddo i beidio ildio gôl oddi-cartref eto ond fe allwn ni wedi cael mwy. Roeddem ni’n cystadlu’n dda ac rydym yn datblygu. Wedi pedair gêm yn ddiguro rydym mewn safle da cyn y flwyddyn nesaf.

– Jayne Ludlow

Mae’r canlyniad yn golygu fod Cymru hanner ffordd drwy’r ymgyrch ragbrofol yn yr ail safle yn ddiguro. Mae enillwyr y grŵp a’r 3 tîm â’r ail safle gorau yn cymhwyso ar gyfer twrnamaint EWRO 2021 Merched UEFA, tra bod gweddill y timau yn yr ail safle yn cystadlu mewn gemau ail-gyfle.

Bydd gêm nesaf carfan Ludlow yn erbyn Ynysoedd y Ffaro ar ddydd Gwener 10fed o Ebrill yn Rodney Parade ac mae tocynnau ar gael ar lein nawr.

Cymru: 1. L O'Sullivan, 5. R Roberts, 2. L Dykes, 4. S Ingle (c), 14. H Ladd, 6. E Hughes (3. G Evans 55'), 7. J Green, 8. A James, 13. R Rowe, 19. M Wynne, 9. K Green (10. H Ward 82')

Eilyddion heb eu defnyddio: 12. C Skinner, 21. O Clark, 15. C Jones, 16. M Francis-Jones, 17. N Lawrence, 20. K Nolan, 22. G Walters

Cerdyn Melyn: Ladd