Cystadlaethau Cwpan CBDC Tymor 2019/20 Wedi'i Gwtogi
Domestic
30 Gorffenaf 2020

Cystadlaethau Cwpan CBDC Tymor 2019/20 Wedi'i Gwtogi

Mae Bwrdd Cwpan Cenedlaethol CBDC wedi gwneud y penderfyniad anodd i gwtogi'r cystadlaethau cwpan CBDC oedd dal i chwarae ar gyfer y tymor 2019/20.

Mae’r penderfyniad yn dod i ben a’r cystadlaethau Cwpan Cymru JD, Cwpan Merched CBDC, Tlws Amatur CBDC, Cwpan Ieuenctid CBDC, Cwpan Merched D16 CBDC a’r Cwpan Ranbarthau CBDC. O ganlyniad, ni fydd unrhyw enillwyr ar gyfer y tymor 2019/20.

Trwy gyfathrebiad gyda’r clybiau heddiw (30 Gorffennaf), mae’r Bwrdd Cwpan Cenedlaethol wedi sôn am ei gydymdeimlad gyda’r clybiau. Esboniwyd i’r clybiau fe fydd y gwobrau ariannol yn cael ei ddosbarthu’n gyfartal ym mhob cystadleuaeth.

Un ffactor bwysig a chafodd ei ystyried gan y Bwrdd Cwpan Cenedlaethol oedd gonestrwydd y gêm, wrth i glybiau paratoi ar gyfer y tymor 2020/21 gyda rhai newidiadau i’r carfanau a chymerodd rhan yn y cystadlaethau 2019/20.

Mae’r rheolau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn atal i glybiau chwarae’n gystadleuol ac wrth i’r bandemig parhau, mae’r opsiynau i ail ddechrau’r cystadlaethau 2019/20 tra hefyd yn trefnu ar gyfer dechrau’r tymor 2020/21 wedi bod yn her i CBDC.