EWRO 2020 UEFA – MAE CYMRU YNO!
International
19 Tachwedd 2019

EWRO 2020 UEFA – MAE CYMRU YNO!

Saethodd Aaron Ramsey garfan Cymru i rowndiau terfynol EWRO 2020 UEFA gyda goliau yn y ddwy hanner mewn buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Hwngari i sicrhau’r ail safle yn y grŵp rhagbrofol.

Cymru 2-0 Hwngari

GÊM RAGBROFOL EWRO 2020 UEFA

  • Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2019

  • Stadiwm Dinas Caerdydd

Fe wnaeth Ryan Giggs ddau newid i’r garfan a drechodd Aserbaijan 2-0 ddydd Sadwrn, gydag Aaron Ramsery a Joe Allen yn cymryd lle Harry Wilson ac Ethan Ampadu.

Daeth cyfle cyntaf Cymru yn y gêm ar ôl deuddeng munud. Carlamodd Dan James o’i hanner ei hun i anfon y bêl drwy goesau Ramsey tuag at Bale ond roedd ei ergyd wan yn poeni dim ar y gôl-geidwad Peter Gulacsi.

Funudau’n ddiweddarach, daeth llawenydd i Gymru. Diolch i ergyd ddelfrydol gan Bale tuag at ben Ramsey, peniodd y bêl i gefn y rhwyd ar ôl dechrau gêm dros Gymru am y tro cyntaf mewn blwyddyn.

Yn dilyn y gôl, fe setlodd y gêm gyda’r cyfleoedd i ddau dîm yn brin oherwydd amddiffyn cryf Tom Lockyer a Chris Mepham yn dileu unrhyw fygythiad gan y gwrthwynebwyr. Bron i Kieffer Moore ddyblu’r fantais ond aeth peniad yr ymosodwr yr ochr anghywir i’r postyn ar ôl i Gymru wrthymosod.

Daeth Wayne Hennessey’n arwr i gefnogwyr Cymru ar ôl hanner awr gan atal gôl gyfartal i Hwngari. Ymatebodd yn arwrol i ergyd Sallai cyn atal Szoboszlai yn dilyn ergyd adlam ar y postyn pellaf.

Dechreuodd yr ail hanner yn ffrwydrol i Gymru. Enillodd Moore gic-gosb yn hanner Hwngari a roddodd cyfle i Ben Davies ergydio’r bêl i’r cwrt cosbi gan achosi anrhefn llwyr. Yn y diwedd daeth y bêl at draed Ramsey gan sicrhau ail gôl Gymru o flaen y Wal Goch.

Gyda Chymru bymtheg munud i ffwrdd o gymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol, bron iawn i Ramsey sgorio ‘hat-trick’ a rhoi gêm tu hwnt i obeithion Hwngari. Diolch i rediad gwych gan James i greu gofod, cafodd ei groesiad ei wyro gan gyrraedd traed Ramsey ond llwyddodd Gulacsi i wneud arbediad gwych i atal tredydd gôl i’r chwaraewr canol cae.

Gall y Wal Goch edrych ymlaen at haf cyffrous arall ledled Ewrop. Mae Cymru ar eu ffordd i EWRO 2020 UEFA.

WALES QUALIFY FOR EURO 2020
WALES QUALIFY FOR EURO 2020