Gêm Weriniaeth Tsiec yn creu hanes wrth i’r garfan cael ei gyhoeddi
International
29 Mawrth 2019

Gêm Weriniaeth Tsiec yn creu hanes wrth i’r garfan cael ei gyhoeddi

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 20 chwaraewr i wynebu’r Weriniaeth Tsiec yn Rodney Parade, Casnewydd ar Ddydd Iau, 4 Ebrill.

Cymru v Y Weriniaeth Tsiec

Gêm Rhyngwladol Cyfeillgar

  • 19:00 Dydd Iau 4 Ebrill
  • Rodney Parade, Casnewydd
  • Tocynnau ar werth yma

Mae’r gêm yn Rodney Parade wedi creu hanes yn barod ar ôl i’r nifer o docynnau a werthwyd cyrraedd dros fil. Dyma’r tro gyntaf i hyn ddigwydd ar gyfer gêm gyfeillgar tîm merched Cymru.

Fe all yr wythnos hefyd fod yn un hanesyddol i Loren Dykes. Mae’r amddiffynnwr wedi chwarae dros Gymru 99 o weithiau ac os fydd hi’n chwarae yn erbyn y Weriniaeth Tsiec hi fydd yr ail chwaraewr i gyrraedd y gamp cant. Jess Fishlock oedd y chwaraewr gyntaf i gyrraedd y gamp yn 2017.

Mae Ludlow wedi galw Elise Hughes ac Anna Filbey nol i’r garfan ar ôl iddyn nhw golli allan ar y gemau yn erbyn y Weriniaeth Iwerddon oherwydd anaf. Enillodd Hughes Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn 2019 yn noson wobrau CBDC yn ddiweddar.

Fe gall cefnogwyr archebu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar www.faw.cymru/tickets.

Carfan Cymru: Laura O’SULLIVAN (CPD Menywod Caerdydd), Olivia CLARK (Menywod Nettleham), Sophie INGLE (CPD Meched Chelsea), Hayley LADD (CPD Merched Dinas Birmingham), Loren DYKES (CPD Merched Dinas Bryste), Gemma EVANS (CPD Merched Dinas Bryste), Cori WILLIAMS (CPD Menywod Caerdydd), Ffion MORGAN (CPD Menywod Caerdydd), Anna FILBEY (CPD Menywod Tottenham Hotspur), Chloe LLOYD (CPD Menywod Caerdydd), Angharad JAMES (CPD Menywod Everton), Jess FISHLOCK (Olympique Lyonnais FC), Kylie NOLAN (CPD Menywod Caerdydd), Elise HUGHES (CPD Menywod Everton), Grace HORRELL (CPD Menywod Caerdydd), Megan WYNNE (CPD Menywod Tottenham Hotspur), Helen WARD (CPD Menywod Watford), Kayleigh GREEN (CPD Merched Brighton & Hove Albion), Natasha HARDING (CPD Merched Reading), Charlie ESTCOURT (CPD Merched Reading)

Squad Announcement Graphic.png