Gwynebau newydd yn carfan D21 Cymru
International
25 Mawrth 2021

Gwynebau newydd yn carfan D21 Cymru

Erthygl gan Kieron Thomas

Mae tîm D21 Cymru yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, fel cyfle i fondio gan fod Paul Bodin wedi ychwanegu 11 wyneb newydd i’r garfan. Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy wlad gwrdd ar lefel D21.

Cymru v Gweriniaeth Iwerddon

Gêm Rhyngwladol D21

  • Dydd Gwener 26 o Fawrth, KO 13:00
  • Parc y Glowyd, Wrecsam
  • Yn fyw ar Facebook a YouTube 

Bydd y chwaraewyr newydd fel Rubin Colwill a Fin Stevens eisiau gwneud argraff dda yn eu camp cyntaf er mwyn sicrhau ei llefydd yng nghemau Rownd Rhagbrofol UEFA EURO D21 2023.

Bydd y gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn brawf da i’r tîm ifanc o Gymru. Bydd y Gwyddelod yn gosod tebyg i Moldofa, tîm y wnaeth Cymru curo 3-0 nol ym mis Tachwedd.

Ni fydd llawer o bwysau ar y canlyniad i Gymru gan mai hwn fydd y tro cyntaf i rai o’r chwaraewyr hyn fynd i’r cae gyda’i gilydd erioed. Wrth gwrs, bydd y tîm eisiau ennill, ond bydd y Cymry ifanc yn gallu arddangos eu doniau fel tîm heb bwysau wrth i Paul Bodin geisio dod o hyd i garfan sefydlog y gall ddibynnu arni ar gyfer yr ymgyrch sydd i’w ddod.

Mae wedi bod yn amser hir ers i’r tîm D21 chwarae gyda’i gilydd pan wnaethant colli 2-1 yn erbyn yr Almaen. Gyda llawer o chwaraewyr newydd yn y garfan, efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i’r tîm hyn dod yn gyfarwydd efo’i gilydd. Er hyn, bydd y tîm ifanc yn edrych ymlaen i wisgo’r crys coch a chreu argraff ar Paul Bodin a’r gwylwyr brwd a fydd yn gwylio o gartref!

Cymru D21: Lewis WEBB (Swansea City), Nathan SHEPPERD (Brentford), Billy SASS-DAVIES (Yeovil Town- On loan from Crewe Alexandra), Morgan BOYES (Liverpool), Edward JONES (Stoke City), Owen BECK (Liverpool), Fin STEVENS (Brentford), Niall HUGGINS (Leeds United), Terry TAYLOR (Burton Albion), Lewis COLLINS (Newport County), Sam BOWEN (Cardiff City), Siôn SPENCE (Crystal Palace), Sam PEARSON (Bristol City), Joe ADAMS (Grimsby Town- On loan from Brentford), Luke JEPHCOTT (Plymouth Argyle), Christian NORTON (Stoke City), Rubin COLWILL (Cardiff City), Rhys HUGHES (Everton), Jack VALE (Rochdale- On loan from Blackburn Robers), Ryan STIRK (Birmingham City).