Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan i wynebu Belarws
International
26 Medi 2019

Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan i wynebu Belarws

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 20 chwaraewr i wynebu Belarws allan yn Barysaw mis nesaf.

Belarws v Cymru

Rownd Ragbrofol EURO Merched UEFA 2021

  • 17:00 Dydd Mawrth 8 Hydref
  • Borisov Arena, Barysaw

Mae Ludlow yn croesawi nôl Rachel Rowe a Nadia Lawrence i’r garfan ar gyfer y gêm ragbrofol pencampwriaeth UEFA EURO merched 2021. Fe fydd Georgia Walters yn gobeithio ennill ei chap gyntaf ar ôl sefyll allan i’w chlwb, Tranmere Rovers.

Belarws bydd trydedd gêm Cymru yn yr ymgyrch ar ôl fuddugoliaeth 6-0 yn erbyn Ynysoedd y Ffaro a gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon mis nesaf. Mae Belarws wedi chwarae un gêm yn yr ymgyrch wrth iddyn nhw guro Ynysoedd y Ffaro 6-0.

Y tro diwethaf wnaeth Cymru a Belarws wynebu ei gilydd Natasha Harding oedd yr arwr wrth i’w thair gôl sicrhau buddugoliaeth 3-0 allan yn Minsk.

Belarus Squad Graphic.png

Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies FC), Claire SKINNER (Cardiff City Ladies FC), Sophie INGLE (Chelsea FC Women), Hayley LADD (Manchester United Women FC), Loren DYKES (Bristol City Women FC), Gemma EVANS (Bristol City Women FC), Rhiannon ROBERTS (Liverpool FC Women), Charlie ESTCOURT (Charlton Athletic Women FC- On loan from Reading FC Women), Anna FILBEY (Tottenham Hotspur Women FC), Angharad JAMES (Reading FC Women), Elise HUGHES (Everton Ladies FC), Rachel ROWE (Reading FC Women), Natasha HARDING (Reading FC Women), Emma JONES (Lewes FC Women), Megan WYNNE (Tottenham Hotspur Women FC), Helen WARD (Watford FC Ladies), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion Women FC), Josie GREEN (Tottenham Hotspur Women FC), Nadia LAWRENCE (Cardiff City Ladies), Georgia WALTERS (Tranmere Rovers Ladies FC)