Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan i wynebu Gogledd Iwerddon
International
21 Hydref 2019

Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan i wynebu Gogledd Iwerddon

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 22 chwaraewr i wynebu Gogledd Iwerddon allan mis nesaf ar gyfer Gêm Ragbrofol Pencampwriaeth UEFA EURO Merched 2021.

Gogledd Iwerddon v Cymru

Rownd Ragbrofol Pencampwriaeth UEFA EURO Merched 2021

  • Dydd Mawrth 12 Tachwedd 19:45
  • Seaview, Belfast

Mae Ludlow yn croesawi Sophie Ingle nol i'r garfan ar ôl i’r capten colli’r fuddugoliaeth 1-0 yn erbyn Belarws oherwydd anaf. Yn anffodus ni fydd y chwaraewr canol cae Natasha Harding ar gael ar gyfer y gêm yn Belfast ar ôl cael ei anafu yn ystod gêm gyda’i chlwb, Reading.

Bydd y chwaraewr canol cae Chloe Williams a’r ymosodwr Maria Francis-Jones yn gobeithio cynrychioli Cymru am y tro gyntaf mis nesaf. Roedd Williams yn rhan o’r garfan chwaraeodd Portiwgal llynedd ac roedd Francis-Jones, o Lanidloes, yn rhan o dîm D17 Cymru yn rownd ragbrofol cystadleuaeth #WU17EURO mis diwethaf.

Yn y gêm gyntaf rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn y rownd ragbrofol, roedd gôl munud olaf yn ddigon i’r ymwelwyr ennill pwynt yn Rodney Parade wrth i’r gêm gorffen 2-2. Mae Cymru yn ail yn y grŵp gyda dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal ond mae gan Ogledd Iwerddon gêm yn llaw ar ôl y gêm gyfartal yn erbyn Cymru a cholled 6-0 yn erbyn Norwy, sydd ar frig y grŵp.

Squad graphic FINAL.png

Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies FC), Claire SKINNER (Cardiff City Ladies FC), Olivia CLARK (Huddersfield Town Ladies FC), Sophie INGLE (Chelsea FC Women), Hayley LADD (Manchester United Women FC), Loren DYKES (Bristol City Women FC), Gemma EVANS (Bristol City Women FC), Nadia LAWRENCE (Cardiff City Ladies FC), Rhiannon ROBERTS (Liverpool FC Women), Anna FILBEY (Tottenham Hotspur Women FC), Angharad JAMES (Reading FC Women), Elise HUGHES (Everton Ladies FC), Rachel ROWE (Reading FC Women), Megan WYNNE (Tottenham Hotspur Women FC), Helen WARD (Watford FC Ladies), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion Women FC), Josie GREEN (Tottenham Hotspur Women FC), Georgia WALTERS (Tranmere Rovers Ladies FC), Kylie Nolan (Cardiff City Ladies FC), Carrie Jones (Cardiff City Ladies FC), Maria Francis-Jones (Cardiff City Ladies FC), Chloe Williams (Manchester United Women FC)