Ludlow yn cyhoeddi'r garfan i wynebu'r Ynysoedd Ffaro a Gogledd Iwerddon
International
19 Awst 2019

Ludlow yn cyhoeddi'r garfan i wynebu'r Ynysoedd Ffaro a Gogledd Iwerddon

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 22 chwaraewr ar gyfer gemau agoriadol y tîm yn rownd ragbrofol pencampwriaeth Ewro 2021 Merched UEFA.

Cymru v Gogledd Iwerddon

  • Dydd Mawrth 3 Medi 19:05
  • Rodney Parade, Casnewydd
  • Tocynnau ar gael yma

Mae Ludlow yn croesawu Angharad James a Rachel Rowe yn ôl i’r garfan a fydd yn wynebu’r Ynysoedd Ffaro yn Norshavn ar 29 Awst ac yna Gogledd Iwerddon yng Nghasnewydd ar 3 o Fedi. Cafodd James seibiant o chwarae yn ystod y fuddugoliaeth 1-0 yn erbyn Seland Newydd ym mis Mehefin ac mae Rowe yn ôl yn y garfan ar ôl treulio bron i flwyddyn allan gydag anaf ACL. Yn anffodus ni fydd Jess Fishlock ar gael gan i chwaraewr mwyaf profiadol Cymru anafu ei ACL wrth chwarae i Seattle Reign dros yr haf.

BE_Squad Announcement_Twitter.jpg

Bydd y chwaraewr canol cae Carrie Jones yn ymuno â’r garfan am y tro cyntaf. Mae’r ferch bymtheg mlwydd oed o’r Drenewydd wedi ymarfer gyda’r tîm o’r blaen ac wedi arwain y tîm D17 fel capten y llynedd.

Gall gefnogwyr archebu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yma.