Ludlow yn cyhoeddi carfan i wynebu Belarws
International
20 Tachwedd 2020

Ludlow yn cyhoeddi carfan i wynebu Belarws

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu Belarws yn gêm olaf y rownd ragbrofol UEFA EWRO Merched 2022 ar ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr.

Rownd Ragbrofol UEFA EWRO Merched 2022

Cymru v Belarws

  • Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 19:10
  • Rodney Parade, Newport
  • Yn fyw ar BBC Two Wales

Mae Ludlow wedi cynnwys Esther Morgan a Caitlin Morris yn y garfan am y tro gyntaf. Mae’r ddau chwaraewr wedi cynrychioli timau dan oedran Cymru ac roedd Morgan yn gapten i’r tîm D19 yn ystod rownd ragbrofol Pencampwriaeth UEFA EWRO Merched D19 llynedd.

Fydd gan Gymru llawer o brofiad yn y garfan, yn cynnwys y capten Sophie Ingle, Jess Fishlock a Natasha Harding a sgorwyd dwy gôl yn y buddugoliaeth 4-0 yn erbyn Ynysoedd y Ffaro mis diwethaf. Ni fydd Anna Filbey ar gael oherwydd anaf i’w thraed yn ogystal a Megan Wynne sydd yn gweithio ei ffordd nol i ffitrwydd ar ôl anaf ACL.

Fe gall buddugoliaeth yn erbyn Belarws sicrhau lle i Gymru yn y gemoedd ail gyfle am y tro gyntaf erioed, ond bydd rhaid i Ogledd Iwerddon methu a churo Belarws yn ei gêm nhw ar ddydd Gwener 27 o Dachwedd er mwyn i Cymru gorffen y grŵp yn yr ail safle.

Bydd y gêm rhwng Cymru a Belarws ar ddydd Mawrth, Rhagfyr 1 yn Rodney Parade, Casnewydd yn fyw ar BBC Two Wales, cic gyntaf 19:10.

Bydd y naw tîm sydd yn curo ei grŵp a’r tri thîm gorau yn yr ail safle (heb ystyried gemau yn erbyn y tîm yn y chweched safle) yn cyrraedd cystadleuaeth UEFA EURO Merched 2022. Fydd y chwe thîm arall yn yr ail safle yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle.

Cymru v Belarus - Twitter & Facebook Graphic.png

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Claire SKINNER (Cardiff City Women), Olivia CLARK (Coventry United), Jess FISHLOCK (Reading- On loan from OL Reign), Sophie INGLE (Chelsea), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Angharad JAMES (Reading), Nadia LAWRENCE (Cardiff City Ladies), Rachel ROWE (Reading), Natasha HARDING (Reading), Elise HUGHES (Blackburn Rovers- On loan from Everton), Helen WARD (Watford), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Lily WOODHAM (Reading), Maria FRANCIS-JONES (Cardiff City Ladies), Ffion MORGAN (Crystal Palace), Kylie NOLAN (Cardiff City Ladies), Carrie JONES (Manchester United), Georgia WALTERS (Blackburn Rovers), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Esther MORGAN (Tottenham Hotspur), Caitlin MORRIS (Southampton), Charlie ESTCOURT (London Bees).