Ludlow yn cyhoeddi carfan i wynebu Ynysoedd y Ffaro a Norwy
International
15 Hydref 2020

Ludlow yn cyhoeddi carfan i wynebu Ynysoedd y Ffaro a Norwy

Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu Ynysoedd y Ffaro a Norwy.

Mae Ludlow wedi cynnwys dau chwaraewr nad oedd yn rhan o’r garfan a gollodd 1-0 yn erbyn Norwy mis diwethaf. Mae’r gôl-geidwad Olivia Clark nol yn y garfan a fydd Josie Longhurst yn rhan o’r tîm am y tro gyntaf. Ni fydd Megan Wynne ar gael ar ôl pigo lan anaf ACL mis diwethaf, ac ni fydd yr amddiffynnwr Loren Dykes ar gael oherwydd rhesymau personol.

Fydd gan Gymru llawer o brofiad ar y cae ar gyfer y gemau allweddol, yn cynnwys y capten Sophie Ingle a chyrhaeddodd cant o gapiau i Gymru mis diwethaf, Jess Fishlock a Natasha Harding.

Fydd Cymru yn wynebu Ynysoedd y Ffaro yn Rodney Parade, Casnewydd ar ddydd Iau 22 o Hydref cyn chwarae Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 27 Hydref. Bydd y ddwy gêm yn dechrau am 16:30.

Bydd y naw tîm sydd yn curo ei grŵp a’r tri thîm gorau yn yr ail safle (heb ystyried gemau yn erbyn y tîm yn y chweched safle) yn cyrraedd cystadleuaeth UEFA EURO Merched 2022. Fydd y chwe thîm arall yn yr ail safle yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle.

 

Cymru: Laura O’SULLIVAN (Cardiff City Ladies), Olivia CLARK (Coventry United), Poppy SOPER (Plymouth Argyle), Jess FISHLOCK (Reading- On loan from OL Reign), Sophie INGLE (Chelsea), Hayley LADD (Manchester United), Gemma EVANS (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Liverpool), Anna FILBEY (Tottenham Hotspur), Angharad JAMES (Reading), Nadia LAWRENCE (Cardiff City Ladies), Rachel ROWE (Reading), Natasha HARDING (Reading), Elise HUGHES (Blackburn Rovers- On loan from Everton), Helen WARD (Watford), Kayleigh GREEN (Brighton & Hove Albion), Josie GREEN (Tottenham Hotspur), Josie LONGHURST (Brighton & Hove Albion), Charlie ESTCOURT (London Bees), Lily WOODHAM (Reading), Maria FRANCIS-JONES (Cardiff City Ladies), Kylie NOLAN (Cardiff City Ladies), Carrie JONES (Manchester United), Cerys JONES (Brighton & Hove Albion), Georgia WALTERS (Blackburn Rovers), Chloe WILLIAMS (Manchester United), Bethan MCGOWAN (Arsenal)

 

 

Cymru Squad- Faroe Islands & Norway.png