MANYLION TOCYNNAU: CROATIA v CYMRU
International
10 Mai 2019

MANYLION TOCYNNAU: CROATIA v CYMRU

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod yr anhwylustod ar gyfer aelodau o’r Wal Goch o ran cyhoeddi cyfran y tocynnau oddi cartref sydd ar gael ar gyfer Gêm Ragbrofol Ewro 2020 UEFA rhwng Croatia a Chymru yn Osijek ar ddydd Sadwrn, 8fed o Fehefin.

Yn dilyn ymweliadau diweddar CBDC ag Osijek, cafodd nifer o bryderon eu codi gydag UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Croatia ynghylch y safonau diogelwch a’r adnoddau yn Stadion Gradski vrt.

Mae CBDC bellach wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan UEFA y bydd y pryderon a godwyd am y stadiwm, yn cael eu hadnewyddu neu eu trwsio cyn y gêm. O ganlyniad, gall CBDC nawr gadarnhau manylion gwerthiant tocynnau gydag aelodau’r Wal Goch.

Mae gan CBDC ddyraniad o oddeutu 1,100 o docynnau ar gyfer y gêm ac maent ar gael i aelodau cymwys o hanner dydd ar ddydd Mercher, 15fed o Fai.

Mae’r wybodaeth yma yn cael ei e-bostio i aelodau ac ar gael drwy glicio yma.