Tîm Cymru Jayne Ludlow yn dychwelyd i’r Cae Ras
International
9 Ionawr 2020

Tîm Cymru Jayne Ludlow yn dychwelyd i’r Cae Ras

Fe fydd tîm Cymru Jayne Ludlow yn chwarae ei gêm gyntaf yn Wrecsam ers 2012 pan fydden nhw’n wynebu Estonia ar Ddydd Gwener, 6 Mawrth (cic gyntaf 19:00).

Cymru v Estonia

Dydd Gwener 6 Mawrth 19:00

Y Cae Ras, Wrecsam

Prynwch tocynnau yma

Dyma’r pedwerydd tro fydd Cymru yn wynebu Estonia, sydd yn cael ei rheoli gan Jarmo Matikainen, cyn rheolwr Cymru. Yn y tair gêm orffennol, mae Cymru wedi cael dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn erbyn y wlad o Ogledd Ewrop.

Bydd y gêm gyfeillgar yn cael ei gynnal mewn cyfnod tyngedfennol yn y calendr rhyngwladol, union hanner ffordd drwy ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Ewro 2021, ble bydd Ludlow yn gobeithio arwain ei charfan i rowndiau terfynol y gystadleuaeth am y tro gyntaf.

Rwy'n hynod o falch i glywed bydd y tîm rhyngwladol yn chwarae yn Wrecsam. Fel merch o'r ardal, rwy'n gobeithio bydd y cefnogwyr yn troi fyny yn ei niferoedd a bydd yr achlysur yn medru ysbrydoli merched ifanc a helpu'r gêm i dyfu yng ngogledd Cymru.

– Elise Hughes

Mae’r gêm yng ngogledd Cymru yn rhan o gynlluniau CBDC i dyfu’r gêm merched ar draws y wlad. Mae dau chwaraewr o’r gogledd, Elise Hughes a Rhiannon Roberts, wedi chwarae rhan hynod bwysig yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn.

Gallwch brynu tocynnau (£5 oedolion £2 consesiynau) yma. Gall clybiau ac ysgolion archebu tocynnau yma.

Cymru v Estonia Match Info.jpg