Tîm D19 Cymru i wynebu Lloegr
International
2 Hydref 2020

Tîm D19 Cymru i wynebu Lloegr

Mae rheolwr tîm D19 Cymru Rob Edwards wedi enwi carfan o 20 chwaraewr i wynebu Lloegr yng ngêm gyfeillgar ar ddydd Mawrth 13 o Hydref.

Gêm Gyfeillgar Rhyngwladol D19

Lloegr D19 v Cymru D19

  • 12:00 Dydd Mawrth 13 Hydref
  • Parc St. George, Lloegr

Mae Edwards wedi dewis carfan gryf sydd yn cynnwys nifer o chwaraewyr sydd wedi cyrraedd y rownd elît mewn pencampwriaeth UEFA EURO D19 am ddwy flynedd yn olynol. Fe fydd Ryan Astley, Morgan Boyes, Sam Bowen, Dan Williams, Joe Adams a Lewis Collins yn ymuno a’r garfan ar ôl cymryd rhan yn y garfan D21 a fydd yn chwarae yn erbyn Gwlad Belg ar ddydd Gwener, 9 Hydref.

Roedd Cymru i fod i gymryd rhan yn rownd elît pencampwriaeth UEFA EURO D19 2020 y mis hyn, ond fe fydd y gystadleuaeth yn cymryd lle ym mis Tachwedd ar ôl cael ei ohirio am y trydydd waith o ganlyniad i’r bandemic COVID-19.

Fel rhan o’r ffenest ryngwladol, fe fydd tîm D17 Cymru yn cymryd rhan mewn camp ymarfer dros bedwar diwrnod yn ne Cymru wythnos nesaf. Bydd rheolwr y tîm D17 Richard Williams yn cymryd y cyfle i baratoi ei chwaraewyr ar gyfer Rownd Ragbrofol UEFA EURO D17 2021 lle bydd Cymru yn wynebu Ffrainc, yr Alban ac Andorra yn gynnar yn 2021, gyda’r Alban yn cynnal y gystadleuaeth.

U19 Announcement England.png

Cymru U19: Lewis Webb Swansea City, Dan Barden (NORWICH CITY), Iestyn HUGHES (Manchester United), Jacob JONES (Swansea City), Luca HOOLE (Bristol Rovers), Cameron EVANS (Swansea City), Ryan ASTLEY (Everton), Morgan BOYES (Liverpool), Tivonge RUSHESHA (Swansea City), Sam BOWEN (Cardiff City), Callum Jones (HULL CITY), Danny WILLIAMS (Swansea City), Rhys HUGHES (Everton), Harry PINCHARD (Swansea City), Kieron EVANS (Cardiff City), Joe ADAMS (Brentford), Sam PEARSON (Bristol City), Lewis COLLINS (Newport County), Will RUSS (Leicester City), Isaak DAVIS (Cardiff City)

 

Cymru U17: Ronnie HOLLINGSHEAD (West Bromwich Albion), Tyler EVANS (Swansea City), Joel GREEN (Newcastle United), Ben HAMMOND (Nottingham Forest), Kai LUDVIGSEN (Swansea City), Zac WILLIAMS (Crewe Alexandra), Zac BELL (Bristol City), Murphy BENNETT (Manchester City), Jordan JAMES (Birmingham City), Joel COTTERILL (Swansea City), Ben PURCELL (Reading), Harry JEWITT-WHITE (Portsmouth), Cameron CONGREVE (Swansea City), Arron BENNETT (Preston North End), Morgan WILLIAMS (AFC Wimbledon), Cian ASHFORD (Cardiff City), Chris POPOV (Manchester United), Ruben DAVIES (Swansea City), Iwan ROBERTS (Liverpool), Owen HAMPSON (Manchester United)